Mae merch o wlad Brunei sy’n byw yn Hwlffordd yn cyhoeddi fideos Cymraeg ar ei sianel YouTube ar ôl mynd ati i ddysgu’r iaith.
Daeth E’zzati Ariffin i Aberystwyth yn 2013 er mwyn dilyn cwrs gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid. Mae hi bellach yn briod â Chymro, Rhodri, ac mae ganddyn nhw fab deg mis oed, Idris.
Mae hi’n mynd i sesiynau ‘Cicio’r Cof’, digwyddiadau i ddysgwyr Cymraeg yn Sir Benfro.
Mae pynciau ei fideos yn amrywio o deithio i goginio.
‘Sialens’
“Mae dysgu iaith newydd bob amser yn sialens ond dw i’n caru’r iaith Gymraeg ac yn benderfynol o ddod yn rhugl ryw ddiwrnod,” meddai.
“Dw i’n trio siarad cymaint â dw i’n gallu a pheidio â phoeni gormod am ramadeg.
“Dw i hefyd yn ysgrifennu sut dw i’n teimlo mewn dyddiadur bob nos cyn mynd i gysgu.”
https://www.youtube.com/channel/UChbAppMfRA4FaRv4zNCYYaA/videos