Mae cadeirydd rhanbarth rygbi Gweilch Abertawe wedi ymddiswyddo yn dilyn cyfarfod o benaethiaid rygbi Cymru heddiw (sydd Mawrth, Mawrth 5).
Disgrifiodd Mike James ymdrech Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru (PRB) i geisio uno’r Gweilch a’r Scarlets fel “camreolaeth drychinebus”.
Does neb, meddai, ym myd rygbi rhanbarthol Cymru yn gwadu bod angen ail-strwythuro er mwyn sicrhau sefydlogrwydd hirdymor y gêm.
Ond mae’r ffordd y mae ef wedi cael ei drin, meddai wedyn, yn dangos “anhrefn llwyr” ac wedi arwain at “ansicrwydd” am ei ddyfodol.
“Diffyg eglurder a thryloywder”
Mae ceisio cynllunio dyfodol rygbi rhanbarthol Cymru yn un peth, meddai wedyn, ond mae ei glwyfo gan “broses mor warthus” yn beth arall.
“Bellach mae gyda nidiffyg eglurder, diffyg tryloywder ac anallu llwyr i gynllunio ymlaen ,” meddai mewn datganiad ar wefan y Gweilch.
“Ni allwn wneud penderfyniadau rygbi na busnes mwyach ac ni all ein chwaraewyr na’n partneriaid masnachol wneud hynny chwaith.
“Ni allaf fod, ac rwy’n gwrthod bod, yn rhan o’r lefel hon o gam-reolaeth drychinebus. Heddiw, rwy’ i wedi penderfynu rhoi’r gorau i fod yn gadeirydd a chyfarwyddwr y Gweilch.”
Craffu ar Undeb Rygbi Cymru
Rob Davies fydd yn llenwi esgidiau Mike James yn gadeirydd.
Ei gam cyntaf fydd craffu ar ac ymchwilio i gyllid Undeb Rygbi Cymru a gwneud adolygiad llawn o weithredoedd yr Undeb yn creu Project Reset – teitl y cynllun uno.
Ymysg y pryderon y mae annibyniaeth a rôl Undeb Rygbi Cymru, a sut mae’n cael ei llywodraethu.