Mae cyn-gyfarwyddwr clwb pêl-droed Bangor yn dychwelyd yno fel cadeirydd ar ôl gadael ei rôl gyda Mosta FC yn Melita.
Dywed nad oedd cwmni wedi camu ymlaen i brynu’r clwb, ac felly bod angen iddo ddychwelyd yno i sicrhau nad yw’n mynd i’r wal.
Yn ôl datganiad ar eu wefan clwb pêl-droed Bangor gan eu rheolwr cyffredinol, Luke Purcell, mae diddordeb wedi dod gan ddau gonsortiwm – un o Ganada ac un o Ogledd Lloegr, er nad oes datblygiad pellach ar hyn o bryd.
Cafodd y cefnogwyr y cynnig i gymryd drosodd, ond nid oeddynt mewn safle ariannol i wneud hynny.
“Roedd rhaid i rywbeth gael ei wneud, fel arall fe fyddai’r clwb wedi mynd i’r wal,” mae Luke Purcell yn honni ar eu gwefan.
Gadael cyn dychwelyd
Fe adawodd Stephen Vaughan Jr dinas Bangor i ymuno â Mosta FC ym mis Tachwedd y llynedd, a hynny ar amser ansefydlog iawn i’r clwb sy’n eistedd yn bedwerydd yng Nghynghrair Huws Gray Cymru ar hyn o bryd.
Ychydig cyn ei ymadawiad, roedd cyfrifwyr y clwb, Salisbury Accountants, wedi ymddiswyddo oherwydd eu pryderon ynglŷn â sut oedd y clwb yn cael ei redeg yn ariannol.
Fe ddisgrifiodd yr awyrgylch yn y clwb bryd hynny fel un “tocsig,” gan ddatgan y byddai’n trosglwyddo’r clwb i’r cefnogwyr “os ydyn nhw’n credu y gallent wneud yn well”.
Daeth yr wltimatwm yna ar ôl i grŵp cefnogwyr y clwb gwestiynu cyfreithlondeb cwmni Vaughan Sports Management, sef perchnogion y clwb.
Dydi perthynas y cefnogwyr a’r rhai sy’n rhedeg y clwb heb fod yn un iachus ers ei gyrrhaeddiad yn 2016.
Cynllun
Bwriad y clwb nawr yw gorffen y tymor mor uchel ag y gallent, cyn dechrau ar y gwaith o ail-adeiladu tymor nesaf.
Maen nhw am geisio taclo’r problemau oddi ar y cae sy’n cynnwys rhoi arian sy’n ddyledus i chwaraewyr a staff.
Mae’r bil dwr oedd yn ddyledus i’r cyngor wedi cael ei dalu, ar ben yr arian oedd angen ei roi i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC).
Bydd Stephen Vaughan Jr yn edrych i gael trafodaethau gyda CIC Nanporth – pherchnogion eu cae – sydd wedi eu gwahardd o chwarae yno ar ôl i’r clwb fethu talu biliau.
Mae’r cadeirydd newydd wedi sicrhau noddwr newydd i’r clwb hefyd, fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau (Mawrth 7).
Ar ben hyn, bydd y Cadeirydd newydd yn cael cyfarfod gyda grŵp cefnogwyr clwb pêl-droed Bangor – mae golwg360 wedi gofyn iddynt am ymateb.