Mae teulu o ogledd Cymru, sy’n gefnogwyr brwd o’r Scarlets, yn dweud na fyddan nhw’n gwneud y daith reolaidd i Lanelli yn y dyfodol os yw’r cynllun i uno’r rhanbarth â’r Gweilch yn mynd yn ei flaen.

Mae’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) ar hyn o bryd yn ystyried cynnig i ad-drefnu rygbi rhanbarthol yng Nghymru drwy uno rhanbarthau’r Gweilch a’r Scarlets er mwyn creu un newydd yn y gorllewin.

Mae ffigyrau amlwg yn Undeb Rygbi Cymru hefyd yn awyddus i sefydlu tîm proffesiynol newydd yng ngogledd Cymru.

Ond yn ôl teulu Alwyn Efans o Rostryfan ger Caernarfon, sy’n cefnogi’r tîm o Dre’r Sosban ers bron i hanner canrif, mae’r cynigion yn rhai “hollol, hollol hurt”.

“Tebyg i Brexit”

Yn ôl Alwyn Evans ei hun, a ddechreuodd diddordeb y teulu yn y Scarlets ar ddechrau’r 1970au, mae ceisio mynychu pob un gêm cartref yn “dipyn o commitment”, gyda thocyn tymor i bedwar yn costio £800, a chostau teithio, gwesty a bwyd ar ben hynny yn tua £200 y gêm, meddai.

Ond wrth fynegi ei wrthwynebiad i’r cynnig o uno â’r Gweilch, mae’n dweud bod y syniad yn “debyg i Brexit”.

“Mae’r canlyniadau yn swnio’n dda, ond does dim cliw bod yna bobol wedi ei weithio fo allan,” meddai wrth golwg360.

“Rhwng y ddau sgwad, rydach chi’n sôn am drigain o chwaraewyr o dan gytundeb. Mae[‘r cynnig] yn mynd i golli swyddi i rai, a dwn i ddim beth ddigwyddith efo’r tîm rygbi cenedlaethol…

“Mae yna gystadleuaeth ofnadwy y tu fewn i’r tîm cenedlaethol. Mae ganddoch chi sawl chwaraewr rhyngwladol yn nhîm y Gweilch ac yn nhîm y Scarlets. Fedran nhw ddim ffitio nhw i gyd o fewn un sgwad oherwydd bydd hynny’n anobeithiol.”

Y gogledd “ddim yn barod” am ranbarth

Dyw ei ferch, Siwan Mair Thomas, sydd â’r un angerdd tuag at y Scarlets â’i thad, ddim yn deall pam bod angen newid rhanbarthau’r gorllewin, o ystyried bod y Scarlets mewn sefyllfa “eithaf iach” ar hyn o bryd.

“Dw i’n teimlo oherwydd hynny bod y Scarlets yn cael eu cosbi i raddau, oherwydd eu bod nhw mewn sefyllfa iach,” meddai. “Mae gan y Scarlets stadiwm, ond does gan y Gweilch ddim.”

Wrth roi ei barn ar y syniad o greu rhanbarth yn y gogledd, mae’n dweud nad yw’r ardal “yn barod” am hynny eto.

“Mae yna ddiddordeb yma yn bendant, ond dw i ddim yn gwybod a oes yna ddigon i gyfiawnhau tîm yn y gogledd ar hyn o bryd,” ychwanega.

“Does gynno ni ddim mo’r stadiwm i ddechrau. Tydi [Parc Eirias] Bae Colwyn ond yn dal rhyw 6,000 a’r cae pêl-droed yn Wrecsam [Y Cae Ras] ond yn dal rhyw 10,000.

“Dw i ddim yn ei weld o’n gweithio ar hyn o bryd.”

Dyma Alwyn Evans yn esbonio cysylltiad y teulu â’r Scarlets…