Mae cwest wedi clywed sut yr oedd tad wedi lladd ei wraig a’i ddau blentyn, cyn lladd ei hun, am ei fod yn credu ar gam fod ei wraig yn cael perthynas a dyn arall.
Roedd Paul Newman, 42, wedi taro ei wraig Geraldine Newman, 51, gyda morthwyl, cyn trywanu ei ferch, Shannon, 11, a’i fab Shane, 6, yn eu cartref yn Allerton Bywater yn Swydd Efrog yn 2016.
Roedd Paul Newman wedi teithio i Gaergybi ar Ynys Môn ar ôl hynny gan neidio oddi ar glogwyn ger Ynys Lawd a lladd ei hun.
Clywodd y cwest yn Llys y Crwner Wakefield bod y cwpl wedi ailgynnau’r berthynas ar ôl i Paul Newman dreulio cyfnod yn y carchar wedi iddo ymosod ar ei wraig yn 2013.
Ond roedd y briodas wedi “dirywio” adeg y digwyddiad ym mis Chwefror 2016 ac roedd Geraldine Newman wedi anfon neges testun at aelod o’r teulu yn yr wythnosau cynt yn dweud bod ganddi ofn ei gwr.
Dywedodd chwaer Paul Newman wrth y cwest nad oedd ei brawd yn ddyn treisgar nes iddo weld negeseuon testun gan ddynion eraill ar ffon ei wraig.
Clywodd y cwest bod disgwyl i Paul Newman gael cwnsela adeg ei farwolaeth.
Clywodd y cwest hefyd nad oedd tystiolaeth i ddangos bod Geraldine Newman yn cael perthynas gyda dyn arall.
Wrth grynhoi’r dystiolaeth dywedodd y crwner Kevin McLoughlin bod Geraldine Newman, Shannon a Shane wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon a bod Paul Newman wedi lladd ei hun. Ychwanegodd na fyddai “unrhyw un fod wedi gallu rhagweld beth oedd yn mynd i ddigwydd er mwyn atal y drasiedi yma.”