Mae ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd rhwng Hirwaun a Glyn-nedd, ffordd sy’n ymestyn dros bum milltir, wedi’i chau oherwydd llifogydd.

Mae cannoedd o gartrefi yn yr ardal heb gyflenwad trydan wrth i Storm Freya ledu ar draws y de.

Mae rhybudd melyn yn ei le tan 6 o’r gloch bore fory (dydd Llun, Mawrth 4), ac mae’n weithredol mewn nifer o ardaloedd ar hyd yr arfordir, lle gallai’r gwyntoedd cryfion gyrraedd cyflymdra o 80 milltir yr awr.

Mae terfyn cyflymdra o 40 milltir yr awr ar bontydd Hafren am y tro, gydag un lôn ynghau i’r gorllewin.

Roedd mwy na 700 o gartrefi heb drydan yn y dwyrain am ran helaeth o’r prynhawn.