Mae llanc 17 oed a gafodd ei lofruddio yn ardal Manceinion neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 2) wedi cael ei enwi.

Cafodd Yousef Ghaleb Makki o Burnage ei drywanu yn ardal Hale Barns ger Altrincham am oddeutu 6.40yh.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae dau lanc 17 oed yn y ddalfa ac yn cael eu holi ar amheuaeth o lofruddio.

Dywed yr heddlu fod ei deulu’n “torri eu calonnau”.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad ac yn apelio am wybodaeth.