“Ceisio elwa ar gefn yr ymwybyddiaeth gynyddol o hunaniaeth Cymru” – dyna mae busnesau ledled y wlad yn ei wneud ar Ddydd Gŵyl Dewi bellach, yn ôl darlithydd o Brifysgol Bangor.

Tros Gymru gyfan heddiw (Mawrth 1) mae siopau yn cynnig deliau arbennig er mwyn dathlu diwrnod ein nawddsant, ac mewn sawl man mae cynnyrch Cymreig ar werth.

Ag yntau’n arbenigwr ar farchnata, mae David James yn nodi nad gwefr genedlaetholgar sydd wedi eu sbarduno, a bod yna gymhelliant ariannol i hyn oll.

“Mae hunaniaeth y Cymry yn dod yn gyffredinol fwyfwy amlwg, trwy amryfal ffyrdd,” meddai wrth golwg360. “A cheisio manteisio ar hynny mae’r archfarchnadoedd trwy wneud yr ymgyrchoedd Dydd Gŵyl Dewi yma.

“Yn y bôn, maen nhw jest wedi gweld cyfle arall i wneud rhywbeth yn wahanol – i ddenu sylw a dal llygad defnyddwyr.”

Magu perthynas

Mae David James yn ymhelaethu ymhellach, ac yn egluro bod busnesau yn anelu at fagu perthynas closach – a mwy buddiol yn ariannol – â chwsmeriaid trwy gyd-ddathlu â nhw.

“Mae yna bwyslais mawr y dyddiau yma ar fagu perthynas,” meddai.

“Ers talwm, yr agwedd yr oedd busnes yn ei gymryd oedd bod y cyswllt gyda’r cwsmer yn ddigwyddiad unigol. Hynny yw, gwerthu a chael y pres – a dyna ei diwedd hi.

“Rŵan yn hytrach na gwerthu mae yna farchnata a chadw cysylltiad hir dymor â chwsmer. Y rheswm am hynny yw ei bod hi’n costio pum gwaith yn fwy i gwmni – ar gyfartaledd – i ddenu cwsmer o’r newydd.”

Santes Dwynwen

Mae David James yn tynnu sylw at ddiwrnod Cymreig arall sydd bellach yn destun dathlu i fusnesau – Dydd Santes Dwynwen.

Mae’n medru cofio pan oedd “nemor ddim sylw i hynny” ac yn ategu: “Efallai mewn cenhedlaeth neu ddwy mi fydd [digwyddiadau Cymreig eraill] yn fwy gwybyddus”. Yn siarad â golwg360 ar ddechrau’r flwyddyn, dywedodd dynes busnes o dde Cymru bod mwy yn manteisio ar “werth masnachol” Dydd Santes Dwynwen bellach.