Mae Ieuan Jones, o Landrillo yn Sir Conwy, wedi mynd a’i lais ar draws y byd, ond rhannu ei hoff gân Gymraeg mae’r bariton wrth feddwl am ddathliadau Gŵyl Ddewi.
Mae’r canwr 24 oed yn asturio cwrs uwchradd yng Ngholeg Cerdd Frenhinol y Gogledd ym Manceinion ar hyn o bryd.
Ond mae Ieuan Jones yn barod wedi perfformio trwy Gymru, gwledydd Prydain a thramor, meddai wrth golwg360.
“Mae perfformio yn y Proms ym Mharc Cymru 2016, canu yn y Bridgewater Hall, gwneud unawdydd yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain yn y Royal Albert Hall yn sicr yn sefyll allan,” dywedodd.
“O ran uchafbwyntiau eraill roedd bod yn unawdydd gwadd yng Ngŵyl Cymry Gogledd America yn Washington DC, a rhannu llwyfan gyda Bryn Terfel yn sioe agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd hefyd yn sbesial!”
Yr haf hwn, fe fydd Ieuan Jones yn perfformio sioe theatr Don Carlo gan Verdi gyda Grange Park Opera cyn canu’r brif ran yn gynhyrchiad Canolfan y Mileniwm o Brundibar gan Krasa.
Dyma gyfle i wrando ar bennill o’r gân Myfanwy gan Ieuan Jones: