Mi fydd Cân i Gymru yn digwydd am y 50fed tro heno (Nos Wener, Mawrth 1) yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, gyda’r cyfan yn fyw ar S4C.
Ers 1969 mae artistiaid fel Margaret Williams, Bryn Fôn, Caryl Parry Jones, Elin Fflur a Gai Toms wedi ennill y gystadleuaeth.
Elin Fflur a Trystan Ellis Morris fydd yn cyflwyno’r noson unwaith et oar S4C.
Wyth cân sydd yn cystadlu am wobr Cân i Gymru 2019 – gyda £5,000 i gyfansoddwr y gân fuddugol, £2,000 i’r ail, a £1,000 i’r trydydd.
Yn wahanol i’r arfer, y gwylwyr yn unig fydd yn dewis pwy fydd yn ennill, a hynny trwy bleidlais ffôn.
Eleni fe gafodd yr wyth cân yn y ffeinal eu dewis gan Kizzy Crawford, Geraint Lovgreen, Non Parry o Eden a Ryland Teifi.
Cyfansoddwyr y caneuon
Dyfrig Evans – ‘LOL’
Bydd cyn-seren grŵp pop y 1990au, Topper, ac sy’n “hoff iawn o’r gystadleuaeth” yn canu cân o’r enw ‘LOL’.
Elidyr Glyn – ‘Fel Hyn ‘da Ni Fod’
Ei hoff gân yw ‘Strydoedd Aberstalwm’ gan Bryn Fôn ac mae ei gân yn “adlewyrchiad ar sut y dylem fod yn hyderus yn ein hunaniaeth ar bob lefel.”
Emyr Rhys – ‘Tyrd yn Agos’
Mae’r artist yn edrych ymlaen at “gymryd rhan mewn achlysur sy’n dathlu cerddoriaeth wreiddiol yn iaith y nefoedd”.
Ei hoff gân yw ‘Yncl John’ gan John Watkin Jones a byddai’n hoffi perfformio gyda Aretha Franklin – sy’n esbonio pam mai ‘soul’ fydd i’w glywed ganddo heno.
Garry Owen Hughes a Gareth Ellis – ‘Tydw i’n Dda’
Mae’r ddau yn dweud eu bod “yna am y profiad” heno, a bod “pob dim arall yn fonws.”
Rhydian Meilir – ‘Gewn Ni Weld Sut Eith Hi’
Fe enillodd yr artist gystadleuaeth cyfansoddi mewn Eisteddfod ddiweddar, ac mae hynny wedi codi ei hyder.
Mali Melyn – ‘Aros Funud’
Yn ôl yr unig ferch sy’n cystadlu eleni “hiraethu am fod yn rhan o’r sin Gymraeg” sydd wedi ei gwthio hi i gystadlu.
Fe ysgrifennodd y gân “wrth geisio peidio cwymp mewn cariad gyda rhywun.”
Adam Wachter a Gareth Owen – ‘Paid â Phoeni’
“Fe fyddai ennill cystadleuaeth fel hon hefo’n gilydd yn rhywbeth arbennig iawn i ni fel cwpwl,” meddai’r cariadon sy’n cystadlu heno.
Sion Roberts a Rhys Jones – ‘Ti a Fi’
Mae’r ddau yn cystadlu oherwydd eu “syniadau am gân eitha’ gwahanol”.
“Y bît yw gwreiddyn y gân,” medden nhw.
Eu hoff gân Gymraeg yw ‘Angor’ gan Tudur Huws Jones.