Mae un o brif actorion Cymru wedi croesawu’r newyddion am benodiad Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr y Sherman, gan ddweud ei fod yn “swnio’n wych”.
Mae disgwyl i Joe Murphy gamu i’r swydd yn y theatr yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, wrth iddo olynu Rachel O’Riordan, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Artistig y Lyric, Hammersmith, yn Llundain.
Mae Joe Murphy ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn The Old Vic yn Llundain, a chyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Cyswllt yn Soho Theatr ac yn Gyfarwyddwr Artistig i’r cwmni ysgrifennu newydd, nabokov.
Wrth gael ei benodi i’w swydd newydd, dywed ei fod am barhau i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn “rhan greiddiol” o’r hyn mae’r Sherman yn ei gynnig, a’i fod hefyd am “adeiladu” ar y gwaith o gyflwyno straeon Cymreig i’r llwyfan rhyngwladol.
“Swnio’n wych”
Un sydd wedi bod yn feirniadol o’r Sherman yn y gorffennol yw’r actores Sharon Morgan, aelod o Bwyllgor Equity Cymru, a ddywedodd wrth golwg360 yn 2017 ei bod hi’n “warth” nad oedd y theatr yn darparu adnodd datblygu sgriptiau yn Gymraeg.
Ond erbyn heddiw, mae hi’n teimlo’n obeithiol am benodiad Joe Murphy, gan ddweud ei fod yn “swnio’n wych”.
“Mae’r ffaith bod [y dramodydd] Tim Price yn ei gymeradwyo yn sicr yn golygu ei fod yn foi da,” meddai Sharon Morgan. “Os y gwnaiff e ddatblygu a meithrin sgwenwyr, cyfarwyddwyr ac actorion Cymreig bydd e’n gaffaeliad.
“Ond y cwestiwn mawr o hyd yw pam nad oes ganddom ni Gymry yn rhedeg ein prif sefydliadau celfyddydol? Erbyn diwedd ei chyfnod roedd yn ymddangos bod Rachel O’Riordan wedi deall ei bod hi mewn gwlad arall, ddwyieithog.
“Mae datganiad Joe Murphy yn cynnwys ymwybyddiaeth o hynny a phwysigrwydd y Gymraeg, sy’n dangos bod y gwaith gwnaethom ni fel cymuned artistig wedi dwyn ffrwyth.”