Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi enwi’r dyn a fu farw ar ôl cael ei daro gan lori yn Sir Gaerfyrddin dros y penwythnos.

Bu farw Michael Watkins, 35, o Cross Hands ar ffordd yr A48 ger cyffordd Cwmgwili yn ystod yr oriau mân fore Sul (Chwefror 24).

Mae’r heddlu yn dal i apelio am wybodaeth ynghylch y digwyddiad wrth i’r ymchwiliad barhau.