Mae gwerthwr pysgod symudol yn Nyffryn Teifi yn dweud iddo gael sioc ar ôl clywed mai ef yw’r gorau yng Nghymru.
Mae Len ‘Fish’ Smith wedi bod yn gwerthu pysgod o gefn ei fan am fwy na deugain o flynyddoedd, gan godi am 3.30yb yn ddyddiol er mwyn casglu pysgod ffres o ddarparwr yn Abertawe.
Mae hefyd yn derbyn cyflenwad o facrell yn ystod yr haf gan ei frawd-yng-nghyfraith, Winston Evans, y pysgotwr o Gei Newydd.
Yn ddiweddar, fe dderbyniodd Len Smith dystysgrif gan yr asiantaeth fwyd, Slow Food Cymru, yn nodi mai ef yw’r gwerthwr pysgod gorau yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn 2018.
Yn ôl y gŵr o Bont Tyweli, dyw e ddim wedi derbyn anrhydedd o’r fath o’r blaen, ond ychwanega ei fod yn gwerthfawrogi’r cwsmeriaid hynny sydd wedi bod yn gefn iddo ar hyd y blynyddoedd.
“Mae dynion yn dda i fi,” meddai. “Maen nhw’n dod i nôl eu pysgod bob wythnos. Mae cwsmeriaid da wedi bod gyda fi ers 40 o flynydde.”
Dyma Len Smith yn sôn am y diwrnod mawr pan gafodd wybod am ei anrhydeddu…