Mae cwmni Airbus, sy’n cyflogi dros 7,000 o weithwyr yn Sir y Fflint, newydd gyhoeddi y bydd yn rhoi gorau i gynhyrchu’r awyrennau anferth A380.
Nid yw’n glir eto beth fydd effaith y penderfyniad ar ddyfodol y ffatri yn Brychdyn, ond gall olygu colli cannoedd o swyddi.
Dywed y cwmni y gall y penderfyniad effeithio ar 3,000 i 3,500 o swyddi ledled y byd. O’r rheini sydd ym Mhrydain, mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n debygol o fod yn ffatri Brychdyn.
Daw’r cyhoeddiad gan Airbus ar ôl i gwmni awyrennau Emirates dorri’n ôl yn sylweddol ar archeb am yr awyrennau.
Fe fydd y gwaith o gynhyrchu’r A380 yn dod i ben ddiwedd 2021.
Yn 240 troedfedd o hyd a lle i 500 o deithwyr ar ei bwrdd, mae’r A380 wedi disodli’r Boeing 747 fel awyren teithwyr fwyaf y byd ers iddi gychwyn cael ei defnyddio yn 2007.