Cafodd dynes ei chludo i ysbyty Morriston yn Abertawe neithiwr (Nos Iau, Chwefror 7) ar ôl cael ei tharo gan gar.

Fe ddigwyddodd y ddamwain o gwmpas 9:47 yr hwyr ar Stryd Clase, ar Morriston Cross yn y ddinas.

Bu i gar Ford Focus llwyd ei tharo gan achosi anafiadau i’w phen.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn y digwyddiad ac eisiau siarad ag unrhyw un sydd â gwybodaeth.

Roedd rhaid cau’r lôn am dair awr wrth i’r heddlu gynnal archwiliadau ac adfer y cerbyd.

Mae galw ar unrhyw dystion i gysylltu ag Uned Plismona Ffyrdd yn Orsaf Heddlu Lakeside ar 101 gan ddyfynnu digwyddiad 1900047219.