Mae cadwraethwyr ym Môn ar fin dechrau ymgyrch newydd i geisio cael gwared â’r minc Americanaidd oddi ar ynys.
Y nod yw atal y mamal sy’n byw ger afonydd rhag sefydlu ar yr ynys, gan ei fod yn un o’r ardaloedd pwysicaf i lygod y dŵr yng Nghymru.
Yn ôl adroddiadau, mae llygod y dŵr yn un o’r rhywogaethau o famaliaid sy’n dirywio gyflymaf yng ngwledydd Prydain, gyda tua 95% wedi’u colli ers yr 1970au.
Mae hynny o ganlyniad i golli cynefinoedd a’r bygythiad a ddaw o’r minc Americanaidd, a gafodd ei gyflwyno i wledydd Prydain yn ystod yr 1920au.
Bydd y prosiect gan Fenter Môn yn cael ei redeg dros gyfnod o ddeunaw mis, gan weithio gyda chymunedau ar ddwy ochr y Fenai.
Gwarchod
“Ym Menter Môn, mae gennym dros 20 mlynedd o brofiad o weithio i warchod rhywogaethau brodorol, sy’n cynnwys prosiect llwyddiannus i ailsefydlu’r wiwer goch a’r dyfrgi – felly rydym mewn lle da iawn i sicrhau bod y prosiect hwn yn cyflawni ei amcanion,” medai Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn.
“Rydym yn awyddus i annog pobol i gymryd rhan yn y cynllun, a bydd rhywbeth i bob oed – a byddwn yn gweithio gyda gwahanol grwpiau cymunedol.
“Bydd gweithgareddau addysgiadol yn cael eu trefnu, a byddwn yn gweithio gydag ysgolion cynradd lleol i gyflwyno disgyblion i lygod y dŵr, a pham bod gwarchod cynefin yn allweddol.”