Mae trafodaethau yn parhau ynglŷn â’r posibilrwydd o gynnal Eisteddfod yr Urdd ar un safle parhaol.

Daw’r cadarnhad oddi wrth Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, yn ystod lansiad Eisteddfod yr Urdd 2019 ym Mae Caerdydd.

“Mae’r trafodaethau yn dal i fynd yn eu blaen,” meddai wrth golwg360. “Ond, dydyn ni ddim wedi symud y prosiect ymlaen llawer ar hyn o bryd gan fod cymaint o bethau eraill wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf.

“Er hynny, rydyn ni’n mynd i barhau i drafod i weld beth yw’r posibiliadau o fynd a hi ymhellach. Ond cyfnod cychwynnol yw e ar hyn o bryd.”

Ar y wefan hon y llynedd y torrodd y stori bod y mudiad wedi comisiynu Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn, i edrych i mewn i’r opsiwn, a datgelu bod trafodaethau yn digwydd ar nifer o feysydd posib.

Gwersylloedd

Wrth siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd y llynedd, dywedodd Siân Lewis bod y corff yn “agor y drafodaeth” ynglŷn ag ehangu nifer eu gwersylloedd.

Ond wrth siarad ym Mae Caerdydd dydd Gwener (Chwefror 1), mae’n dweud mai canolbwyntio ar eu gwersylloedd presennol yw’r flaenoriaeth.

“Mae gyda ni dri o wersylloedd yng Nghymru yn barod,” meddai. “A’r bwriad ydy buddsoddi yn y gwersylloedd hynny er mwyn sicrhau bod mwy o blant a phobol ifanc – y 50,000 sy’n barod yn mynychu’n gwersylloedd – yn cael y profiadau unigryw yna. Y profiad o fod i ffwrdd o adre am y tro cyntaf, ac efallai yn ymwneud â’r Gymraeg am y tro cyntaf.”

Adnewyddu

Ym mis Hydref y llynedd, daeth cadarnhad bod Urdd Gobaith Cymru wedi sicrhau £55m i adnewyddu a datblygu eu gwersylloedd yn Llangrannog a Glan-llyn.

Mae’n dweud bod y gwaith ar fin dechrau yng Nglan-llyn, a’u bod yn gobeithio bydd y gwaith yno wedi’i gwblhau o fewn y deunaw mis, neu ddwy flynedd, nesaf.

Mae’n nodi mai nod y buddsoddiad yw “sicrhau ein bod yn cyrraedd anghenion plant Cymru heddiw, a bod mwy o wasanaethau mwy cyfoes yn cael eu cynnig”.