Fe fyddai gwneud wal ‘Cofiwch Dryweryn’ yn gofeb swyddogol yn “helpu pobol i addysgu am ein hanes”, meddai Aelod Cynulliad.
Daw hyn ar ôl i’r arwydd ar y wal hanesyddol ar ffordd yr A470 ger Llanrhystud gael ei ddisodli gan yr enw ‘Elvis’ dros y penwythnos.
Ond erbyn y bore Llun (Chwefror 4), roedd lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod grŵp o bobol ifanc wedi bod mynd ati i adfer yr arwydd gwreiddiol, sy’n coffau pentref Capel Celyn a gafodd ei foddi yn ystod yr 1960au.
Mae sawl unigolyn wedi galw am ddiogelu’r wal hanesyddol, ac mae dros 1,500 o bobol eisoes wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd cam o’r fath.
“Cofeb barhaol, swyddogol’
Yn ôl Bethan Sayed, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru yn y Cynulliad, mae’r ffaith bod criw o bobol ifanc wedi mynd ati i adfer yr arwydd ‘Cofiwch Dryweryn’ yn “dangos angerdd ein pobol ifanc i weithredu”.
“Byddai cofeb barhaol, swyddogol, naill ai trwy warchod neu sefydlogi beth sydd yno, neu drwy comisiynu gwaith o’r newydd, yn helpu i addysgu pobol am ein hanes,” meddai mewn llythyr agored at y Dirprwy Weinidog tros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis Thomas.
“Os bod momentwm i ddatblygu gweithiau celf modern ar hyd ac ar led Cymru nawr ar yr agenda, yn enwedig yn sgil y sefyllfa Banksy ym Mhort Talbot, fe fyddai’r amser yn berffaith nawr yn ogystal i gael trafodaeth am lwybr treftadaeth/celfyddydol ar hyd Cymru, sydd yn adrodd ein hanes mewn ffordd amgen.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Ar hyn o bryd, mae wal ‘Cofiwch Dryweryn’ yn gofeb sydd ddim yn strwythur rhestredig,” meddai llefarydd.
“Mae CADW o hyd yn barod i ailystyried cais ar gyfer rhestru lle mae yna dystiolaeth newydd. Ond, yn achos y gofeb hon, mae trafodaethau yn y gorffennol ynglŷn â’i dyfodol wedi cwestiynu ai rhestru fyddai’r ffordd orau o sicrhau’r diogelwch sydd ei angen, hyd yn oed os yw’n cyrraedd y gofynion.”