Mae lluniau sydd wedi’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod wal hanesyddol ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi cael ei adfer.
Bu criw o bobol ifanc wrthi yn ystod y nos yn ail-baentio’r arwydd eiconig ar ôl i’r enw ‘Elvis’ ymddangos ar y wal ger Llanrhystud, Ceredigion, dros y penwythnos.
Mae’r wal ar yr A487 yn coffáu un o’r digwyddiadau gwleidyddol mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru, gan gyfeirio at bentref Capel Celyn a gafodd ei foddi yn ystod yr 1960au er mwyn sicrhau cronfa ddŵr i ddinas Lerpwl.
Cafodd yr arwydd gwreiddiol ei baentio gan y diweddar Meic Stephens, ac mae wedi cael ei adfer sawl tro dros y blynyddoedd yn sgil fandaliaeth.
Hyd yn hyn, mae dros 1,500 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu’r wal.
Adfer!
Righting a wrong.
Tagiwch eich hun, arwyr!#CofiwchDryweryn pic.twitter.com/vJ5O4TF8ZW— Aled & Teifi ??????????️? (@AledGwynWiliams) February 4, 2019