Ken Skates (Llun Cynulliad)
Fe fydd gweithgor o Aelodau Cynulliad yn ystyried dyfodol yr holl gyfryngau yng Nghymru – o bapurau lleol i ddarlledwyr cenedlaethol fel y BBC ac S4C.
Maen nhw eisoes wedi gofyn am dystiolaeth gan unrhyw un sydd yn rhan o’r cyfryngau neu sydd â diddordeb ynddyn nhw.
Fe fydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn holi tystion cyn gwneud argymhellion sydd, medden nhw, yn dod ar adeg dyngedfennol yn hanes y cyfryngau.
Mae papurau lleol yn dal i ddiodde’, medden nhw, a’r BBC, ITV ac S4C yn torri’n ôl tra bod Llywodraeth Llundain yn ystyried creu gorsafoedd teledu lleol mewn chwech ardal yng Nghymru.
‘Prinder arian ac ansicrwydd’
“Mae prinder arian ac ansicrwydd yn parhau i greu anawsterau i’r diwydiant cyfryngau yng Nghymru,” meddai Ken Skates AC, Cadeirydd y grŵp, sydd hefyd yn gyn newyddiadurwr gyda phapur yr Evening Leader yn y gogledd-ddwyrain.
“Mae cwmpas ein hymchwiliad yn fwriadol eang gan fod gwaith ymchwil yn awgrymu nad oes unrhyw un ateb i’r problemau sy’n wynebu’r sector
“Mae cael sector cyfryngau cynaliadwy, creadigol a gwybodus yn hanfodol i’n cymdeithas a bydd gennym ddiddordeb mawr yn yr hyn fydd gan bobol i’w ddweud.”