Manila - ofni'r gwaetha' (Mike Gonzalez CCa 3.0)
Mae ynysoedd y Philipîn ar fin cael eu taro gan yr ail gorwynt glaw o fewn wythnos.
Y disgwyl yw y bydd y teiffŵn Nalgae yn cyrraedd cryfder o fwy na 120 milltir yr awr, a hynny ychydig ddyddiau ar ôl i 50 o bobol gael eu lladd gan deiffŵn cynharach.
Mae tua 200,000 o bobol mewn gwersylloedd tros dro a thua miliwn o bobol wedi’u dal yn gaeth gan lifogydd ar brif ynys y wlad, sy’n cynnwys y brifddinas, Manila.
Paratoi
Yno, yn ôl gohebydd y gwasnaeth newyddion Al Jazeera yn yr ardal, mae’r awdurdodau’n paratoi am ail ergyd gan obeithio na fydd y storm cynddrwg.
Roedd y corwynt cynharach wedi dinistrio amddiffynfeydd môr ar hyd Bae Manila.
Mae canol a de-ddwyrain Asia i gyd wedi bod yn diodde’ o stormydd gwael yn ystod y monsŵn, gan achosi’r llifogydd gwaetha’ yn yr ardal ers 30 mlynedd.