Mae disgwyl i westy yn Aberystwyth a aeth ar dân y llynedd gael ei ddymchwel yn “rhannol” yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae’r ardal o gwmpas Tŷ Belgrave ar y prom wedi bod ynghau i’r cyhoedd ers y digwyddiad yn ystod oriau mân y bore ar Orffennaf 25.

Mae golwg360 yn deall y bydd y gwaith dymchwel yn cael ei gynnal rhwng Chwefror 18 a Mawrth 15, pan Cyngor Sir Ceredigion yn cau rhan o’r ffordd.

Yn ôl llefarydd ar ran y cyngor, maen nhw wedi cael cais i gau’r ffordd er mwyn:

  • hwyluso’r gwaith o ddymchwel yn rhannol;
  • cael gwared ar elfennau strwythurol o’r to sydd wedi cael niwed;
  • cael gwared ar y rwbel sydd yn yr adeilad;
  • ailasesu cryfder y wal sy’n weddill rhwng Tŷ Belgrave a’r Belle Vue.