Mae swyddogion mewnfudo’r Unol Daleithiau yn gorfodi bwyd lawr gyddfau chwe ffoadur sy’n ymprydio mewn carchar yn Tecsas.

Yn ôl Asiantaeth Gorfodaeth Mewnfudo a Thollau (ICE) mae 11 o garcharorion yng Nghanolfan Broses El Paso wedi bod yn gwrthod bwyd, rhai am fwy na 30 diwrnod.

Dywed y carcharorion, ynghŷd â pherthnasoedd a chyfreithiwr sy’n cynrychioli’r ymprydwyr, fod bron i 30 ohonynt o India a Ciwba yn gwrthod bwyta, sydd wedi arwain at rhai yn colli’r egni i sefyll neu siarad.

Mae pedwar carcharor ychwanegol ar ympryd mewn safleoedd eraill yn ardaloedd Miami, Pheonix, San Diego a San Francisco hefyd yn ol llefarydd Asiantaeth Gorfodaeth Mewnfudo a Thollau, Leticia Zamarripa.

Mae’r dynion yn dweud eu bod yn ymprydio er mwyn protestio yn erbyn camdriniaeth eiriol a bygythiadau o alltudiaeth gan warchodwyr.