Mae criwiau tân o Ddinbych, Yr Wyddgrug a’r Rhyl wedi cael eu galw i Ruthun ar ôl i dân gynnau toc wedi 6yb heddiw (dydd Iau, Ionawr 31).
Yn ôl Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru, mae’r criwiau yn parhau i fod ar y safle, ond does yna ddim cadarnhad eto yn lle’n union y cynheuodd y fflamau.
Mae’r gwasanaeth yn dweud bod ysgol hir â phlatfform arni wedi cael ei dwyn yno gan grw’r Rhyl.