Mae llys wedi clywed fod dillad gwaedlyd a gafodd eu dympio mewn bag plastig, yn cysylltu tri dyn â llofruddiaeth gŵr yn sir Caerffili ym mis Awst y llynedd.

Y gred ydi i David Gaut, 54, gael ei hudo o’i gartref, cyn cael ei drywanu 150 o weithiau mewn bloc o fflatiau yn Tredegar Newydd.

Mae David Osborne, 51; Ieuan Harley, 23; a Darran Evesham, 47, wedi’u cyhuddo o ladd David Gaut, ac maen nhw’n sefyll eu prawf  yn Llys y Goron Casnewydd.

Fe glywodd y llys ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 29) bod siawns “un mewn biliwn” nad gwaed David Gaut oedd hwnnw a ganfuwyd ar ddillad a gafodd eu stwffio i fag plastig siop H&M a’u taflu ar lan afon yn y ddinas.

Mae erlynwyr hefyd yn mynnu bod y tri diffynydd wedi’u gweld ar luniau camera cylch cyfyng yn gwisgo dillad tebyg i’r rhai yn y bag plastig, cyn i David Gaut gael ei ladd. Fe gafodd y rheithgor weld y lluniau hynny yn y llys yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r tri diffynnydd yn gwadu’r honiadau o lofruddio rhwng Awst 1 ac Awst 4 y llynedd. Mae dau ohonyn nhw hefyd yn gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.