Yr wythnos nesaf fe fydd cynghorwyr dinas Caeredin yn cael y cyfle i bleidleisio ar gynllun ‘trethu twristiaid’ – a phe baen nhw’n dod lawr o’i blaid, dyma fyddai’r cyntaf o’i fath i gael ei gyflwyno yng ngwledydd Prydain.

Mae’r cynllun, dan ei deitl Saesneg ‘Transient Visitor Levy (TVL)’ yn argymell codi treth o £2 ar bob noson mewn ystafell mewn gwesty neu wely a brecwast; eithrio pobol sy’n gwersylla neu’n carafanio o’r dreth; rhoi cap o saith noson ar y dreth; a buddsoddi tua £14.6m y flwyddyn.

Mae’r £2 y noson yn cael ei weld yn welliant ar yr opsiwn arall o godi canran o bris y llety; ac mae dweud nad oes modd codi’r dreth ar arhosiad hirach nag wythnos yn gwarchod gweithwyr tymhorol a gweithwyr mewn gwyliau.

Os y bydd yn cael ei gymeradwyo gan gyfarfod llawn cynghorwyr Caeredin ddydd Iau nesaf (Chwefror 7), fe fydd y dreth yn mynd gerbron gweinidogion ac Aelodau Senedd yr Alban wedyn i gael ei hawdurdodi.

Mae dinasoedd fel Paris a Barcelona eisoes yn gweithredu treth debyg, tra bod cynghorau Bath a Rhydychen yn Lloegr eisoes wedi galw am yr hawl i godi mwy ar ymwelwyr.