Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cynnal cynhadledd ryngwladol yn ymwneud â droniau.
Bydd y digwyddiad ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cynnwys arbenigwyr o wledydd Prydain, Iwerddon ac Ewrop, a’r nod yw trafod sut y gall technoleg drôns ddiogelu a chyfoethogi’r amgylchedd.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae asiantaethau amgylcheddol yn defnyddio droniau “fwyfwy” erbyn hyn, a hynny er mwyn helpu i reoli digwyddiadau, taclo troseddau gwastraff, archwilio asedau a monitro’r amgylchedd.
Yn ystod y gynhadledd ei hun, bydd modd gweld drôns ar waith pan fydd timau o’r asiantaethau a’r prifysgolion yn eu harddangos yn ysgol droniau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn Llaneurgain.
“Bydd y gynhadledd, y gyntaf o’i math yng Nghymru, yn cynnig cyfle i ystyried y modd y defnyddir drôns ar hyn o bryd, rhannu syniadau a phrofiadau, datblygu canolfan gyfathrebu a datblygu ffyrdd newydd o gyflwyno dysgu integredig,” meddai Martin Davies, arweinydd rhaglen dronau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ddydd Mawrth a dydd Mercher yr wythnos hon (Ionawr 29 a 30).