Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £1m at gynllun i gefnogi cymunedau a phrosiectau amgylcheddol.
Bydd Cynllun Cymunedol Treth Gwarediadau Tirlenwi yn rhoi’r grant i 27 o brosiectau ar draws Cymru yn ei rownd ariannu cyntaf.
Caiff yr arian ei wario ar brosiectau i wella mannau gwyrdd lleol, ardaloedd addysgol awyr agored i blant a rhaglenni cadwraeth i ddiogelu anifeiliaid a phlanhigion prin.
Fe fydd yn cael ei reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a bydd y prosiectau yn cael eu cynnal mewn ardaloedd y mae safleoedd tirlenwi wedi effeithio arnyn nhw.
Mae’r arian yn dod o Dreth Gwarediadau Tirlenwi newydd Cymru, sydd wedi cymryd lle Treth Tirlenwi’r Deyrnas Unedig ers mis Ebrill y llynedd.
Y Prosiectau
Bydd hyd at £50,000 yr un ar gael i helpu prosiectau llwyddiannus sy’n ymdrin â’r amgylchedd, natur, ailddefnyddio, bioamrywiaeth a rheoli gwastraff.
Ymhlith y prosiectau fydd yn cael arian mae’r Pembrokeshire Remakery yn Sir Benfro, Menter Môn ar Ynys Môn, Ymddiriedolaeth Natur Vincent yn y Gogledd, sydd wedi derbyn swm o £49,900 yr un.
Mae eraill yn cynnwys Canolfan Teuluoedd y Betws, Sir Gaerfyrddin sydd wedi cael £8,000 ac Ysgol y Lawnt, Caerffili, sydd wedi derbyn £10,600.
Bydd dwy rownd ariannu yn cael eu cynnal bo b blwyddyn – mae’r ceisiadau i hwnnw newydd gau.
“Manteision mawr i gymunedau”
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths “wrth ei bodd” gyda’r cynllun.
“Daw’r prosiectau hyn â manteision mawr i gymunedau, yr amgylchedd a natur a bydd eu heffaith yn para am genedlaethau,” meddai.
Yn ôl prif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ruth Marks “mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cynrychioli amrywiaeth gyffrous o brosiectau o bob rhan o’r wlad.”
“O weithredu i wella cyfleusterau cymunedol lleol, gwella’r amgylchedd naturiol a lleihau gwastraff, caiff y prosiectau hyn effaith ardderchog yng Nghymru.”
“Wnaeth y rownd gyntaf ennyn llawer iawn o ddiddordeb ac mae WCVA yn falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol i roi’r cynllun hwn ar waith,” ychwanegodd Ruth Marks.