Mae disgwyl i waith adnewyddu gwerth £660,000 ar barc hanesyddol yng Nghaerdydd gychwyn yr wythnos nesaf (dydd Llun, Chwefror 4).
Mae Parc Cefn Onn wedi’i leoli yng ngogledd y Brifddinas, ac mae’n barc gwledig hanesyddol rhestredig Gradd 2.
Yn ôl Cyngor Caerdydd, y nod yw gwneud cyfres o welliannau yn y lleoliad, gan gynnwys gwella’r mynediad, gosod arwyddion newydd ac adnewyddu’r pyllau, cyrsiau dŵr a’r tai bach.
Mae’r cynllun wedi derbyn grant gwerth £459,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac mae disgwyl i’r cam cyntaf o welliannau gymryd tua phedwar mis i’w gwblhau.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd rhan o’r parc – sef ardal y Pant yn y rhan uchaf – ar gau i’r cyhoedd.
“Parc coetir unigryw”
“Mae Parc Cefn Onn yn drysor yng ngogledd y ddinas ac mae’n wych gweld y prosiect i warchod a gwella’r parc coetir unigryw hwn yn dechrau,” meddai’r Cynghorydd Peter Bradbury, aelod o’r Cabinet tros Ddiwylliant a Hamdden.
“Dim ond cam cyntaf y prosiect yw’r gwaith a fydd yn dechrau’r wythnos nesaf. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo ac annog defnydd o’r parc gan amrywiaeth eang o ymwelwyr o bob oedran a gallu, ynghyd â gwneud gwelliannau ffisegol i’r parc.”