“Does dim llawer ohonom ar ôl” – Dyna sydd gan gerfiwr llwyau caru i’w ddweud am ei grefft.
Dechreuodd ddiddordeb Siôn Llewellyn yn y grefft pan oedd yn 12 oed, ac wedi i’w chwaer hynaf dderbyn llwy garu. Wedi rhywfaint o ymholi mi gwrddodd â’r cerfiwr Len Evans a roddodd daclau iddo, a chyn hir roedd yntau’n cerfio llwyau.
Mae Siôn Llewellyn, sydd o Ben-y-bont ar Ogwr, bellach yn rhedeg cwmni yn gwerthu’r llwyau pren, ac yn dad i fab sy’n gweithio â choed.
Ond, dyw’r cerfiwr ddim yn credu bydd ei grefft yn cael ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf, ac mae’n cyfleu rhywfaint o dristwch tros hynny.
“Dw i ond yn medru meddwl am ryw ddau neu dri yng Nghymru sy’n eu cerfio yn y dull traddodiadol – Hynny yw, yn eu creu a’u dwylo o un darn o bren,” meddai wrth golwg360.
“Does gen i ddim prentis. Mae fy mab yn gweithio â phren ond does ganddo fe ddim yr amynedd i orffen creu llwy. Mae yn fy helpu o bryd i’w gilydd â’r gwaith sy’n llai cain.
“Ond dyw’r gwaith cymhleth ddim yn [apelio].”
Dyweddïo
Er bod yr awydd i ddysgu ei grefft ar drai, mae’n dweud bod y brwdfrydedd y Cymry i ailafael â’u traddodiadau yn gryfach nag erioed.
“Yn wreiddiol roedd rhoi llwy garu yn debyg i ddyweddïo â modrwy,” meddai Siôn Llewellyn.
“Ac roedd safon y llwy yn adlewyrchu dyfnder eich teimladau at dderbyniwr y llwy. Roedd yn gyfle i ddangos eich sgil cerfio. A byddai geneth bert yn medru derbyn hanner dwsin ohonyn nhw.
“Dw i wedi gwneud ambell i lwy dyweddïo tros y blynyddoedd diwethaf. Gwnaeth dau ohonyn nhw ddyweddïo ar lwybr arfordir Cymru.
“A gwnaeth un ohonyn nhw ddyweddïo ar Dwr Eiffel. Gwnaethon nhw gario’r llwyau yn eu bagiau, ac mi wnes focsys ar eu cyfer hefyd.”
Symbolaeth
Mae gan bob patrwm ystyr dyfnach, a gallwch weld rhestr ohonyn nhw islaw:
Calon: Cariad a serch
Diemwnt: Cyfoeth
Clo: Diogelwch
Yr haul: Cryfder
Pedol: Lwc dda i’r cwpwl