Mae’r chwilio’n ail-ddechrau bore ma am yr awyren fechan oedd yn cario ymosodwr newydd Caerdydd Emiliano Sala o Nantes yn Ffrainc i’w glwb newydd.
Dywedodd Heddlu Guernsey bod y chwilio wedi dod i ben am 5yp ddydd Mawrth. Roedd hofrenyddion a badau achub wedi chwilio 1,155 milltir sgwâr am yr awyren a ddiflannodd dros y Sianel nos Lun (21 Ionawr).
Os oedd yr awyren wedi glanio yn y môr, mae’r gobeithion o ddod o hyd i unrhyw un yn fyw yn “annhebygol” iawn, meddai Heddlu Guernsey neithiwr.
Roedd nifer o wrthrychau wedi cael eu gweld yn y dŵr ond dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n gallu cadarnhau os ydyn nhw’n rhan o’r awyren.
Yn ôl Awdurdod Hedfan Sifil Ffrainc roedd Emiliano Sala a’r peilot ar fwrdd yr awyren fechan a ddiflannodd oddi ar y radar ar ei ffordd o Nantes i Gaerdydd nos Lun.
Roedd wedi gadael Nantes am 7.15yh ond wrth hedfan heibio Guernsey fe wnaeth gais i lanio ond roedd swyddogion rheoli traffig awyr Jersey wedi colli cysylltiad gyda’r awyren yn fuan wedyn.
Ddoe, roedd cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd Ken Choo wedi mynegi ei sioc o glywed y newyddion.
Roedd Emiliano Sala, 28 oed, ar ei ffordd i Gymru ar ôl ffarwelio a’i gyd-chwaraewyr yn Nantes nos Lun.
Mae llu o negeseuon o gefnogaeth wedi cael eu rhoi i Emiliano Sala, sy’n enedigol o’r Ariannin, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel person “hyfryd” a chwaraewr “penigamp”.
Mae Clwb Caerdydd wedi bod mewn cysylltiad â’i deulu wrth iddyn nhw aros am newyddion.
Roedd Emiliano Sala wedi ymuno a Nantes yn 2015 ac mae’n debyg bod yr Adar Gleision wedi talu £15 miliwn amdano.