Mae prif weithredwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi dweud bod pawb yn y clwb mewn “sioc” ar ôl i’r awyren oedd yn cludo’r chwaraewr Emiliano Sala ddiflannu neithiwr wrth hedfan o Nantes i Gaerdydd.

Daeth sylwadau Ken Choo wrth i un o’r dynion sy’n arwain yr ymdrech i chwilio am yr awyren rybuddio bod y posibilrwydd o ddod o hyd i unrhyw un yn fyw yn “pylu’n gyflym iawn.”

Roedd  timau achub  wedi dechrau chwilio am yr awyren fechan neithiwr (nos Lun, 21 Ionawr) ar ôl iddi ddiflannu oddi ar y radar ar ei ffordd o Nantes yn Ffrainc i Faes Awyr Caerdydd.

Roedd disgwyl i’r ymosodwr o’r Ariannin ddechrau ymarfer gyda’r clwb yng Nghaerdydd heddiw.  Mae’n debyg bod Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi talu tua £15 miliwn am y pêl-droediwr a oedd yn chwarae i Glwb Pêl-droed Nantes.

“Sioc”

“Rydym mewn sioc o glywed y newyddion bod yr awyren wedi diflannu,” meddai Ken Choo.

“Roedden ni wedi disgwyl i Emiliano gyrraedd Caerdydd neithiwr a heddiw oedd ei ddiwrnod cyntaf gyda’r tîm i fod.

“Mae ein perchennog Tan Sri Vincent Tan, a’r cadeirydd Mehmet Dalman yn bryderus iawn am y sefyllfa.”

Ychwanegodd: “Hoffwn ni gyd yma yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ddiolch i’r ffans a’n teulu pêl-droed am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma.

“Mae meddyliau’r tîm, y staff rheoli a’r clwb gyda Emiliano a’r peilot.

“Rydym yn dal i weddïo am newyddion positif.”

Y chwilio

Mae pum hofrennydd a dau fad achub wedi chwilio mwy na 1,000 milltir sgwâr ond does dim son am yr awyren, meddai Heddlu Guernsey.

Dywedodd John Fitzgerald, prif swyddog timau achub Ynysoedd y Sianel bod y posibilrwydd o ddod o hyd i unrhyw un yn fyw yn pylu drwy’r amser oherwydd bod tymheredd y môr yn oer iawn a’r amodau yn heriol dros nos. Mae’r chwilio bellach wedi dod i ben am y dydd a bydd yn ail-gychwyn yn y bore.

Roedd yr awyren wedi gadael Nantes am 7.15yh gyda Emiliano Sala a’r peilot ar ei bwrdd.

Mae’n debyg bod cais wedi cael ei wneud i lanio wrth i’r awyren hedfan heibio Garanais ond bod swyddogion rheoli traffig awyr yn Jersey wedi colli cysylltiad gyda’r awyren yn fuan wedyn.

Gohirio gêm

 Yn dilyn y newyddion am Emiliano Sala, mae gêm nesaf Clwb Pêl-droed Nantes, a fyddai wedi cael ei chynnal yfory (dydd Mercher, Ionawr 22), wedi’i gohirio.

Roedd disgwyl i’r clwb wynebu L’Entente SSG mewn rownd o’r gystadleuaeth Coupe de France. Bydd y gêm bellach yn cael ei chynnal ar Ionawr 27.

Wrth gyhoeddi’r diweddariad ar y We, mae L’Entente SSG wedi cydymdeimlo â Chlwb Pêl-droed Nantes a theulu Emiliano Sala.

Mae’r clwb hefyd yn dweud bod y rheiny a oedd ar fwrdd yr awyren ym “meddyliau pawb”.