Mae Prif Weinidog Cymru yn galw ar Lywodraeth Prydain i “ymwrthod yn llwyr” â Brexit heb gytundeb.
Daw’r alwad hon ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, gyflwyno ei ‘chynllun B’ gerbron y Senedd yn San Steffan ddoe (dydd Llun, Ionawr 21).
Ond mae Mark Drakeford yn dweud mai fersiwn “wedi’i addasu” o gytundeb sydd eisoes wedi cael ei wrthod gan Aelodau Seneddol ydyw, ac mae’n rhybuddio bod yna berygl i wledydd Prydain “lithro tuag at Brexit heb gytundeb yn ddiofyn”.
Datganiadau gan weinidogion
Mae Busnes Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad wedi cael ei newid heddiw er mwyn i weinidogion gyflwyno cyfres o ddatganiadau ynghylch yr effaith y byddai canlyniad dim cytundeb yn ei chael ar Gymru.
Mae disgwyl iddyn nhw hefyd amlinellu’r gwaith sydd ar y gweill ar gyfer paratoi at sefyllfa o’r fath.
“Dylai caniatáu’r sefyllfa drychinebus o ymadael heb gytundeb fod y tu hwnt i unrhyw Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae’n rhaid i’r Prif Weinidog wrthod yr opsiwn hwnnw yn llwyr ac ymestyn Erthygl 50,” meddai Mark Drakeford.
“Byddai hynny’n rhoi amser i Lywodraeth y Deyrnas Unedig newid cyfeiriad ac ymrwymo i ailagor y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau Brexit sy’n amddiffyn swyddi a’r economi.”