Mae arlywydd Zimbabwe wedi dychwelyd adref tra ar ganol taith dramor, a hynny er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r argyfwng ariannol yn y wlad.
Cafodd ei groesawu ym Maes Awyr Rhyngwladol Harare gan Ddirprwy Arlywydd Zimbabwe, Constantino Chiwenga, cyn-gadfridog yn y fyddin, sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg y wlad tra oedd Emmerson Mnangagwa i ffwrdd yn Rwsia a Kazakhstan.
Yn ystod yr wythnos o daith, mae protestiadau mawr wedi bod yn Zimbabwe, gyda 12 o bobol wedi’u lladd ar ôl cael eu saethu gan luoedd y llywodraeth.
Fe ddechreuodd y protestio yn dilyn streic yr wythnos ddiwethaf ynghylch y cynnydd sylweddol mewn pris tanwydd.
Mae’r awdurdodau bellach wedi arestio Japhet Moyo, ysgrifennydd cyffredinol Cyngres Undebau Masnachol Zimbabwe, am ei ran yn trefnu’r streic.
Roedd y llywodraeth hefyd wedi atal y We yn y wlad am gyfnod, ond fe ddyfarnodd Uchel Lys Zimbabwe yn erbyn y cam hwnnw ddoe (dydd Llun, Ionawr 21).