Mae’r rheithgor yn achos tri dyn sydd wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn oedd wedi lladd plentyn, wedi cael eu rhyddhau o’u dyletswyddau.

Roedd y barnwr Mr Ustus Lewis wedi eu rhyddhau’r wyth menyw a phedwar dyn am resymau cyfreithiol.

Mae David Osborne, 51, Ieuan Harley, 23, a Darran Evesham, 47, yn sefyll eu prawf yn Llys y Goron Casnewydd ar gyhuddiad o lofruddio David Gaut, 54, ym mis Awst y llynedd yn Nhredegar Newydd, Caerffili.

Maen nhw i gyd yn gwadu llofruddio David Gaut rhwng Awst 1 a 4 y llynedd.

Mae Ieuan Harley a Darran Evesham hefyd yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ond mae David Osborne wedi cyfaddef i’r cyhuddiad hwnnw.

Mae disgwyl i reithgor newydd yn yr achos gael eu dewis yfory (dydd Mawrth).