Mae arweinwyr busnes a gwleidyddol yng ngogledd Cymru yn gobeithio cynnal “trafodaethau pellach” gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain ynghylch ariannu Wylfa Newydd.
Bu cyfarfod brys gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn dilyn penderfyniad Hitachi yr wythnos ddiwethaf i ohirio’r gwaith o ddatblygu’r orsaf niwclear newydd ym Môn.
Y prif reswm am y gohirio, medden nhw, yw ansicrwydd cyllidol o amgylch y cynllun.
Ymhlith y rheiny oedd yn bresennol yn y cyfarfod brys heddiw (dydd Llun, Ionawr 21) oedd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, a ddywedodd ar drothwy’r cyfarfod fod angen “parhau i gydweithio” er mwyn sicrhau dyfodol ar gyfer Wylfa Newydd.
Parhau i drafod
“Mae’r Bwrdd yn cefnogi’n llawn ddatblygiad yr orsaf pŵer niwclear newydd yn Wylfa, Ynys Môn, a’r manteision economaidd y bydd hyn yn ei ddarparu ar gyfer y rhanbarth cyfan,” meddai’r Bwrdd mewn datganiad.
“Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y berthynas weithredol agos sydd eisoes mewn lle gyda llywodraethau Cymru a Phrydain, y sector breifat a Phŵer Niwclear Horizon, a chyda’n gilydd, rydym yn ystyried y camau nesaf a’r ffordd orau ymlaen…
“Fe fyddwn ni’n awr yn cynnal trafodaethau pellach gyda llywodraethau Cymru a Phrydain er mwyn ystyried cefnogaeth ychwanegol a chyfleoedd ariannu yn sgil y penderfyniad [i atal y gwaith datblygu].”
Angen “cynnal y momentwm”
Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates: “Mae cyfarfod heddiw yn adeiladu ar y gwaith partneriaeth sydd wedi mynd rhagddo ers sawl blwyddyn bellach. Mae angen i ni gynnal y momentwm a pharhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod y prosiect hwn yn digwydd ar Ynys Môn, a bod gwaddol yn cael ei gyflawni.
“Trwy gydweithio fel rhanbarth byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i roi sicrwydd ynghylch ei bwriadau. Rydym yn parhau’n ymrwymedig i’n buddsoddiadau yn y Gogledd, gan gynnwys y buddsoddiad gwerth dros £600 miliwn yn y seilwaith trafnidiaeth.”