Bydd milwr a oedd wedi derbyn Croes Fictoria am ei ddewrder yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei anrhydeddu drwy enwi pont ar ei ôl.

Cafodd yr Uwch-ringyll John Henry Williams – oedd yn cael ei adnabod fel Jack – ei eni yn Nant-y-glo ym Mlaenau Gwent yn 1886.

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd enwi pont ar ei ôl yn ffordd i sicrhau bod ei enw yn cael ei gofio.

Cafodd ei anrhydeddu a’r Groes am achub cyd-filwyr ac atal pentref cyfan rhag cael ei ddinistrio’n llwyr tra’n rhan o 10fed Bataliwn Cyffinwyr De Cymru.

Y Groes Fictoria yw’r clod uchaf am ddewrder y mae modd ei roi i filwyr lluoedd Prydain. Roedd derbyn y groes honno, ar ben yr anrhydeddau eraill a dderbyniodd Jack Williams, yn ei wneud y swyddog Cymreig fwyaf addurnedig y rhyfel.

“Cadw straeon yn y cof”

Mae Pont Jack Williams, sy’n 50 metr o uchder, yn rhan o brosiect newydd yr A465 rhwng Bryn-mawr a Gilwern.

Cafodd y seremoni i’w hagor ei chynnal heddiw (Dydd Llun, Ionawr 21) ac roedd  Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters wedi datgelu plac Pont Jack Williams gerbron 12 aelod o’i deulu, gan gynnwys ei wyres Ann Page.

“Mae’r teulu’n eithriadol o falch o Jack Williams ac yn ddiolchgar iawn fod pobl Blaenau Gwent yr un mor falch ohono a’u bod yn awyddus i gadw’r straeon amdano yn y cof drwy gefnogi digwyddiadau coffa,” meddai Ann Page.

“Bydd enwi’r bont arbennig hon ar ei ôl yn ysgogi diddordeb cenedlaethau’r dyfodol mewn ymchwilio i’w hanes a deall pam y dylai ei weithredoedd dewr yn ystod y Rhyfel Byd gael eu cofio am byth.“

Yn ôl Lee Waters “roedd Jack Williams yn arwr go iawn”  ac mae’r bont “yn deyrnged addas i ddyn a ddylai gael ei gofio am byth.”

“Bydd y cyswllt hwn â Jack yn creu gwaddol y gall cenedlaethau’r dyfodol ei fwynhau,” ychwanegodd.