Mae Windsor Davies, yr actor comedi, wedi marw’n 88 oed.
Cafodd y newyddion ei gadarnhau gan ei ferch Jane.
Cafodd ei eni yn Llundain a’i fagu ym mhentref Nant-y-moel ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe fu’n byw yn Ffrainc yn niwedd ei fywyd, yn dilyn marwolaeth ei wraig Eluned. Roedd ganddyn nhw bump o blant, ac roedden nhw’n briod am 62 o flynyddoedd.
Dywedodd eu merch Jane fod y teulu’n cofio amdanyn nhw “â chariad a diolchgarwch, ac yn llawn chwerthin”.
Gyrfa
Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad ‘Sargeant Major Williams’ yn y gyfres It Ain’t Half Hot Mum rhwng 1974 a 1981, a Mog Jones yn y ffilm rygbi Grand Slam.
Ymddangosodd e hefyd yn y cyfresi teledu Ring Out An Alibi, The New Statesman, Terrahawks a Never The Twain, yn ogystal â’r ffilmiau Carry On England a Carry On Behind.
Roedd e ar y teledu’n fwyaf diweddar mewn pennod o’r gyfres gomedi My Family yn 2004.
Ynghyd â’i gyd-actor Don Estelle, fe gyrhaeddodd eu cân ‘Whispering Grass’ rif un yn y siartiau Prydeinig yn 1975.