Mae un o sêr y byd actio wedi pwysleisio gwerth cig coch a phwysigrwydd cefnogi Cig Cymru.
Un o’r pethau sy’n cyffroi Matthew Rhys fwyaf pan mae’n dychwelyd i Gymru “yw cinio Sul traddodiadol o gig eidion neu gig oen,” meddai.
“Yr un fath ag unrhyw fwyd arall, ddylen ni ddim gorfwyta cig coch,” meddai.
“Ond mae cael cig coch yn rhan o ddiet cytbwys yn fuddiol dros ben am ei fod yn ffynhonnell gyfoethog o brotein sy’n cynnwys haearn, sinc a fitaminau.”
Ychwanegodd ei fod yn mwynhau bwyta cig coch “yn bennaf am ei fod yn anhygoel o flasus”.
Cefnogi Cig Cymru
Mae Matthew Rhys wedi cefnogi cig oen Cymru a chig eidion Cymru yn y gorffennol wrth leisio hysbysebion Hybu Cig Cymru.
Yn 2015 fe gafodd gyngor ar goginio cordon bleu gan y cogydd Bryn Williams – gan goginio cig oen o Gymru.
Ar y pryd esboniodd ei fod yn “braf cael gwersi “ ar sut i goginio cig o gofio ei fod yn “hanu o deulu mawr a oedd yn cynhyrchu’r cig”.
Seren adnabyddus arall sy’n gefnogol iawn o Gig Oen Cymru yw’r chwaraewr rygbi, Shane Williams.
Dywedodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad; “Hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r Cymry pybyr hyn am eu cefnogaeth a’u teyrngarwch i’w cenedl a’r diwydiant ffermio yng Nghymru.”