Mae Pŵer Niwclear Horizon yn atal ei raglen i ddatblygu gorsafoedd niwclear yng ngwledydd Prydain – sy’n cynnwys gorsaf niwclear Wylfa Newydd ym Môn.

Mae’r cwmni wedi rhoi gwybod i Lywodraeth San Steffan yng nghyfarfod bwrdd Hitachi i beidio â bwrw ymlaen â’r rhaglen gyfredol o weithgareddau ym Môn ac ar ail safle yn Oldbury yn Swydd Gaerloyw.

“Rydyn ni wedi dod yn ein blaenau’n dda ar bob agwedd o ddatblygiad y prosiect, gan gynnwys dyluniad y Deyrnas Unedig o’n hadweithydd a oedd wedi cael ei brofi, datblygu’r gadwyn gyflenwi ac yn enwedig adeiladu sefydliad galluog iawn o bobol dalentog ac ymrwymedig,” meddai Duncan Hawthorne, Prif Weithredwr Pŵer Niwclear Horizon.

“Rydan ni wedi bod mewn trafodaethau agos gyda’r Llywodraeth, ar y cyd â Llywodraeth Japan, ar yr ochr ariannu a’r trefniadau masnachol cysylltiedig ar gyfer ein prosiect ers blynyddoedd.

“Mae’n ddrwg iawn gen i ddweud er gwaethaf ymdrechion gorau pawb a fu’n ymwneud â’r gwaith, nid ydym wedi gallu dod i gytundeb sy’n bodloni pawb dan sylw.

“O ganlyniad byddwn yn atal y gwaith o ddatblygu prosiect Wylfa Newydd, yn ogystal â’r gwaith sy’n ymwneud ag Oldbury, nes bydd modd dod o hyd i ateb.”