Adeilad Cyngor Gwynedd
Mae Plaid Cymru wedi ennill mwyafrif clir ar Gyngor Gwynedd unwaith eto ar ôl cipio dwy sedd mewn isetholiadau neithiwr.

Yn y ddau achos, fe lwyddodd ymgeiswyr y blaid i guro’u prif wrthwynebwyr, carfan Llais Gwynedd, gan godi nifer ei chynghorwyr i 39 allan o 75.

Yn 2008, roedd llwyddiant Llais Gwynedd yn etholiadau’r cyngor sir wedi mynd â mwyafrif clir y Blaid ond mae nifer o isetholiadau wedi adfer hwnnw.

Neithiwr, fe lwyddodd hi i gipio sedd Diffwys a Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog oddi ar Llais Gwynedd a chadw sedd Penrhyndeudraeth, lle’r oedd ei chyn gynghorydd wedi cael ei garcharu am ddwyn o’r swyddfa bost yr oedd y ei rhedeg.

Roedd y fuddugoliaeth i Gareth Thomas yno yn un glir, gyda mwyafrif o bron 300 ond roedd y frwydr yn glosiach yn Niffwys lle’r oedd hi’n frwydr ben-ben rhwng y ddwy blaid am sedd yr oedd Llais Gwynedd yn ei dal gyda phedair pleidlais.

Y canlyniadau

Dyma’r ddau ganlyniad:

Penrhyndeudraeth

515 Plaid Cymru (Gareth Thomas)

219 Llais Gwynedd (Rhian Jones)

90 Annibynnol (Dafydd Thomas)

Diffwys a Maenofferen

210 Plaid Cymru  (Mandy Williams-Davies)

153 Llais Gwynedd (Catrin Elin Roberts)