Mae wyth o ysgolion Caerdydd wedi derbyn grant er mwyn dathlu Geraint Thomas yn ennill y Tour de Ffrance y llynedd.
Bydd y £12,500 yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu gwaith celf fydd yn cael ei osod o amgylch trac y Maindy Flyers, yng Nghanolfan Maendy – lle dechreuodd Geraint Thomas ei yrfa feicio.
Gyda chymysgedd o artistiaid, cerddorion a beirdd, y bwriad yw creu cofeb weledol barhaol o’r rhan bwysig y mae’r Ganolfan wedi ei chwarae yn hanes chwaraeon Cymru.
Yr ysgolion yw Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Gynradd Albany, Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Gladstone, Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph, Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica ac Ysgol Mynydd Bychan.
Bydd y prosiect yn cloi gyda Gŵyl Crys Melyn yn y ganolfan ym mis Gorffennaf i gyd-fynd gyda Tour de France 2019.
“Arwr lleol”
Y ganolfan yw’r unig drac beicio agored yng Nghaerdydd, ac wedi chwarae rhan ganolog yn llwyddiant Geraint Thomas.
“Mae Canolfan Maendy yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect celf gyffrous yma, un fydd yn dathlu camp aruthrol ein harwr lleol a Phersonoliaeth y Flwyddyn y BBC – Geraint Thomas,” meddai Anthony Hayes, rheolwr Canolfan Maendy.
“Bydd yn gyfle i blant a phobol ifanc ardal Cathays arddangos eu hedmygedd a’u cefnogaeth o daith Geraint ac i ddathlu gwireddu ei freuddwydion a fagwyd pan gychwynnodd yn fachgen ifanc.”