Mae dawnswraig broffesiynol ifanc o Geredigion yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am ddawns gyfoes yng Nghymru drwy gydweithio â cherddor Cymraeg.
Mae Elan Elidyr o Dalybont ger Aberystwyth newydd raddio o Iwanson International School of Contemporary Dance yn yr Almaen, ond ar ôl dychwelyd adref i Gymru mae’n teimlo bod dawns gyfoes yn “estron” i lawer o Gymry Cymraeg.
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, felly, fe fydd hi, ar y cyd â dau ddawnsiwr proffesiynol arall o Gymru – Meilir Ioan a Hannah Hughes – yn cydweithio â’r cerddor Lewys Wyn, prif leisydd band Yr Eira, er mwyn creu perfformiad sy’n gyfuniad o gerddoriaeth Gymraeg a dawns.
Bydd y pedwar yn treulio pedwar diwrnod yng nghwmni ei gilydd, cyn cynnal perfformiad yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar Chwefror 28.
Cynulleidfa newydd
“Dw i’n teimlo na fyddai lot o Gymry Cymraeg efallai’n dewis mynd i ddawns gyfoes fel y peth cyntaf os byddan nhw’n mynd i theatr,” meddai Elan Elidyr wrth golwg360.
“Dwi am ddiolch hefyd i’r Fran Wen, am ariannu’r prosiect. Hebddyn nhw bydde hyn ddim yn bosib, felly diolch!”
“Dw i’n meddwl mai’r ffordd o gael e atyn nhw yw cael cerddor ifanc i berfformio… Rydyn ni’n mynd i gael pedwar diwrnod yng Nghanolfan y Celfyddydau yn brainstormo a dod i fyny efo rhywbeth ac wedyn gwneud rhyw fath o ddangosiad bach ar y prynhawn dydd Iau.
“Dw i jyst eisiau cael y cyhoedd i ddod ac i weld dawns gyfoes – rhywbeth nad ydyn nhw fel arfer yn mynd i’w gweld – ond achos bod cerddoriaeth Gymraeg yn rhan ohono fe, efallai y byddwn ni’n gallu tynnu i fewn ystod eang o gynulleidfa.”
“Creu ymateb”
Er nad oes enw ar y perfformiad ei hun eto, fe fydd y cyfan yn cael ei greu gan ddefnyddio’r thema ‘ffiniau’, meddai Elan Elidyr.
Yn dilyn y perfformiad byr wedyn, fe fydd sesiwn holi ac ateb lle mae’r perfformwyr yn gobeithio denu’r gynulleidfa i “siarad” am ddawns gyfoes.
“Dw i’n cadw dweud mai rhyw fath o working progress fydd e,” meddai’r ddawnswraig ymhellach. “Dw i eisiau clywed beth mae pobol eraill yn ei ddweud. Efallai fydd y gynulleidfa yn ei gasáu e, ac fe fydd hynny’n fine.
“Os bydd pobol yn ei lico fe, yna fe fyddwn ni’n trio cael rhyw ddangosiadau eraill yn rhywle arall.”