Mae pob copi o rifyn cyntaf cylchgrawn newydd Cymraeg wedi gwerthu, yn ôl y tair merch sydd y tu ôl iddo.
Codi Pais ydi enw’r cyfnodolyn sydd wedi ei anelu at “bawb” gan Lowri Ifor, Casi Wyn a Manon Dafydd.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cymysgu celf, barddoniaeth, erthyglau a llenyddiaeth er mwyn creu “llyfryn cylchgrawn sy’n canolbwyntio ar y gweledol a’r creadigol”.
“Wnaeth Casi ffeindio hen gopis o gylchgrawn merched Pais o’r 1980au rhyw flwyddyn yn ôl, ac ar ôl sbïo arnyn nhw wnaethon ni feddwl – oce, wel does yna ddim byd tebyg i hwn wedi bodoli ers ydan ni’n cofio,” meddai Lowri Ifor wrth golwg360.
“Yr ysbrydoliaeth i gychwyn hwn oedd edrych ar gyfrolau Pais a phenderfynu bod o mewn ffordd yn hen bryd creu rwbath tebyg i’n cenhedlaeth ni.
“Merched sy’n cael cyfrannu, ond mae’r cylchgrawn i bawb i’w ddarllen,” meddai wedyn.
Y nod ydi cyhoeddi tri rhifyn y flwyddyn o Codi Pais, gyda’r nesaf allan ym mis Ebrill.
‘Codi Pais’ – pam?
Mae sawl cylchgrawn i ferched wedi bod yn Gymraeg, gyda theitlau fel Y Gymraes, Y Frythones, Hon, Pais a Mela ymhlith y rheiny.
“Os ydach chi’n sbïo ar y cylchgronnau eraill i gyd, maen nhw i gyd o’u hoes, yn rhoi lleisiau i ferched,” meddai Lowri Ifor.
“Erbyn yr 1980au, pan wnaeth Pais ddod i’r golwg, mae merched yn gweithio, yn creu, yn gwthio ffiniau lot mwy, a dw i’n meddwl eich bod chi’n gweld lot o’r ysbryd yna o gefnogi merched yn Pais.
“Felly fanna oedd ein man cychwyn ni, a chyfeiriad tafod yn y boch i hanes cylchgronnau merched cynt ydi’r teitl, mewn ffordd.”
Dyma Lowri Ifor yn disgrifio’r cylchgrawn newydd: