Mae Matthew Rhys wedi cael ei ddewis i fod yn brif gymeriad, ac yn gynhyrchydd, ar gyfres newydd Perry Mason gan HBO.
Mi fydd y Cymro 44 oed o Gaerdydd yn chwarae rhan y cyfeithiwr sy’n amddiffyn pobol sydd wedi cael eu cyhuddo ar gam.
Cafodd y gyfres wreiddiol ei ddarlledu yn yr Unol Daleithiau rhwng 1957 a 1966 a chafodd y cymeriad ei bortreadu bryd hynny gan Raymond Burr.
Mi fydd y gyfres newydd gyda Matthew Rhys yn canolbwyntio ar y cyfnod cyn hynny, o tua 1932.
Mae Perry Mason yn dechrau ar ei yrfa yn ymchwilydd preifat sy’n crafu byw i dalu rent, tra’n byw hefyd gydag atgofion o ryfel yn Ffrainc. Mae ei briodas hefyd wedi chwalu.
Mae Matthew Rhys yn camu i’r rhan yn syth ar ôl ennill gwobr Actor Gorau yn adran y Critics’ Choice, yng ngwobrau’r Emmys ar ddydd Sul (Ionawr 13) am ei berfformiadau yn The Americans.