Mae cyn-bostmon o Gaerdydd wedi pledio’n euog i droseddau brawychol ar ôl rhoi fideos ar YouTube yn dangos pregethwr eithafol Islamaidd.

Roedd Sajid Idris wedi cyfaddef pedwar cyhuddiad o ledaenu deunydd brawychol, rhwng Tachwedd 1 2013 a Rhagfyr 4 2014, yn groes i’r Ddeddf Frawychiaeth 2006.

Roedd disgwyl i’r achos yn erbyn Sajid Idris, 36 oed o Sblot, ddechrau yn Llys y Goron Kingston ddydd Llun (Ionawr 14) ond roedd wedi pledio’n euog i’r cyhuddiadau.

Cafodd Sajid Idris ei arestio yn 2017 yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng Uned Gwrth Frawychiaeth Cymru a’r uned yn y gogledd ddwyrain.

Cafodd cyhuddiad yn erbyn ei wraig Sadia Malik, 38, o ddosbarthu cyhoeddiad brawychol, ei ollwng ddydd Llun.

Dywedodd y barnwr Paul Dodgson bod Sajid Idris wedi “annog pobl i gymryd rhan mewn gweithredoedd brawychol gan beryglu bywyd” drwy ledaenu’r deunydd.

Cafodd ei ddedfrydu i 21 mis o garchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd.