Mae disgyblion ysgolion cynradd yn ardal Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn creu murlun arbennig dros gyfnod o ddau ddiwrnod a fydd yn cael ei arddangos ar fur un o fusnesau’r dref.
Mae plant o Ysgol Carreg Hirfaen, Ysgol Dyffryn Cledlyn, Ysgol Bro Pedr ac Ysgol y Dderi wedi bod yn brysur yn cydweithio â’r artist Rhiannon Roberts o Rhiannon Art i greu’r darn o gelf trawiadol, sy’n cynnwys darluniau o adeiladau mwyaf eiconig Llanbedr Pont Steffan.
Ar ôl cwblhau’r murlun wedyn, fe fyddai’n cael ei arddangos ar fur siop W D Lewis ar Stryd y Bont fel bod modd i deithwyr sy’n dod o gyfeiriad Sir Gaerfyrddin ei weld.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Bwyllgor Gŵyl Dewi y dref, ac wedi’i gefnogi gan rai sefydliadau a busnesau lleol.
Yn ôl Maer Llanbedr Pont Steffan, Ann Bowen Morgan, bydd y cyfan wedi’i gwblhau ar gyfer yr Orymdaith Gŵyl Dewi ar Fawrth 4.
“Mae gyda ni bwyllgor yn Llanbed sy’n trio gwella pethau yn y dref o ran golwg ac yn y blaen, ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n neis creu rhywbeth lliwgar ar y ffordd i fewn i’r dre,” meddai.
“Hefyd, mae’n rhoi cyfle i blant lleol weithio gydag artist. Mae tua deugain o blant wedi gweithio yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf.”