Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn achos o saethu at gar a chartref modurol oedd wedi’u parcio ar ymyl y ffordd yn ardal Tredelerch y brifddinas.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Greenway am oddeutu 9.50 neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 12), yn dilyn adroddiadau bod trigolion wedi clywed dryll yn cael ei danio sawl gwaith.
Cafodd car a chartref modurol eu difrodi.
‘Digwyddiad brawychus’
“Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus i’r teulu dan sylw a bydd y gymuned ehangach, yn hollol ddealladwy, yn gofidio’n fawr,” meddai’r Ditectif Arolygydd Paul Raikes, sy’n arwain yr ymchwiliad.
“Diolch byth na chafodd unrhyw un ei anafu, ond hoffwn sicrhau’r cyhoedd ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i’r sawl sy’n gyfrifol, a’r arf ddefnyddion nhw, ar fyrder.”
Mae’r ardal ynghau i’r cyhoedd wrth i ymchwiliad gael ei gynnal, ac mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw un yn “ymddwyn mewn modd amheus” cyn y digwyddiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.