Mae cynllun sy’n gostwng y gost o deithio ar fws i bobol ifanc 16-18 oed, wedi costio llawer llai i Llywodraeth Cymru ers Ebrill 2017.
Yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol, sydd wedi craffu ar gynllun Fy Ngherdyn Teithio, mae’n “codi cwestiynau amlwg” ynghylch gwerth am arian cyllid y cynllun.
Cafodd £14.74m ei wario yn ystod cyfnod peilot cychwynnol y cynllun rhwng Medi 2015 i Fawrth 2017. Yn y cyfnod o Ebrill 2017 i fis Mawrth 2019 fodd bynnag, dim ond £2.9m sydd wedi cael ei wario.
Mae’r costau ers dechau’r cyfnod o Ebrill 2017 yn adlewyrchu bod yr iawndal sy’n cael ei roi i weithredwyr bysiau, ers hynny, yn seiliedig ar werthiannau tocynnau rhatach, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol.
Yn y cyfnod hwnnw – oherwydd nad oedd system cofnodi nifer y teithiau wedi cael ei gofnodi – cafodd gweddill y gyllideb a gytunwyd arno ei rannu ar sail fformiwla yn hytrach.
“Amcangyfrifon gwael”
Ar ddechrau’r cynllun roedd Llywodraeth Cymru wedi tybio byddai 80% o bobol ifanc 16-18 (tua 90,000) oed yn manteisio ar y cardiau teithio ac yn eu defnyddio ddwywaith yr wythnos ar gyfartaledd.
Er hynny, dim ond 10% o’r bobol ifanc cymwys oedd wedi gwneud cais am gardiau teithio erbyn mis Mawrth 2017 – diwedd y cyfnod prawf cyntaf.
Ers canol mis Awst 2018, mae 14,939 o gardiau teithio yn weithredol o’r cyfanswm o 20,953 oedd wedi cael eu rhoi allan.
Amcangyfrifwyd y bu 1,343,659 o deithiau rhatach yn 2017-18.