Charles Breslin
Daeth mwy na 350 o bobl ynghyd ar gyfer angladd un o’r glowyr a laddwyd ym mhwll glo Gleision yng Nghwm Tawe.
Roedd Charles Breslin, 62, wedi bod yn lowr ar hyd ei oes a chafodd ei ddisgrifio fel “gŵr, tad a brawd ffyddlon” yn ystod y gwasanaeth emosiynol yn amlosgfa Abertawe.
Roedd Mr Breslin, o Gwmllynfell, yn un o bedwar glowr fu farw ar ôl i ddŵr lifo i’r pwll yng Nghilybebyll, Pontardawe ar 15 Medi. Daethpwyd o hyd i gyrff Mr Breslin, Phillip Hill, 44, Garry Jenkins, 39, a David Powell, 50, y diwrnod canlynol.
Ymhlith y galarwyr roedd teuluoedd y tri glöwr arall ac aelodau o’r timau achub. Roedd tua 200 o bobl o’r gymuned leol yn gwrando ar y gwasanaeth tu allan i’r amlosgfa.
Dywedodd y gweinidog, Tim Hewitt, “Roedd Charles yn ŵr, tad a brawd ffyddlon. Yn weithiwr caled ac yn ffrind i nifer.”
Roedd Mr Breslin a’i wraig Mavis wedi bod yn briod ers 40 mlynedd.
Daeth y gwasanaeth i ben gyda’r gân Working Man gan Tom Jones.
Cynhelir angladd Mr Hill ar ddydd Gwener am 2pm yn Amlosgfa Margam, Port Talbot.
Bydd angladd Mr Jenkins yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn yng Nghapel Beulah, Cwmtwrch am 11.15am. Does dim dyddiad hyd yn hyn ar gyfer angladd Mr Powell.